MIKE PARKER Croeso
HOME | ABOUT | BOOKS | TV & RADIO | EVENTS | CONTACT | BLOG | CYMRAEG |
 

Croeso i wefan yr awdur a darlledwr Mike Parker

Rydw i wedi byw yn y Canolbarth ers 2000, am ddegawd ym mhentre Esgairgeiliog, yn Nyffryn Dulas i'r gogledd o Fachynlleth, ac yn ddiweddar rhwng pentrefi Tal-y-Wern a Melinbyrhedyn, ar ochr arall yr hen brifddinas.

Rwyf yn awdur o:

  • Coast to Coast (Gwasg Carreg Gwalch), hanes fy ddau haf yn ffilmio cyfres HTV, pan wnes i hwylio o gwmpas arfordir Cymru mewn llongiau gwahanol - o gin palace yng Ngŵyr i garthlong tywod 450 tunnell ym Môr Hafren.
  • Neighbours From Hell? English Attitudes to the Welsh (Y Lolfa), llyfr cwlt, crac a doniol am hanes hir agweddau y Saeson tuag at eu cymdogion agosaf.  Fel boi o Worcestershire (sori, Swydd Caerwrangon), roeddwn i'n gallu deall y bwnc o'r ddau safpwynt.  Oedd y llyfr, meddai'r awdur Catrin Dafydd, fel "dadl efo ei hun".
  • Map Addict (Collins), llythr caru 300 tudalen i'r Ordnance Survey.  Ar ôl ei gyhoeddu, sylweddolais i nad oeddwn i ar ben fy hun yn fy obsesiwn rhyfedd.  Dyn ni'n dwlu mapiau, fel dangoswyd gan lwyddiant y llyfr a fy nghyfres Radio 4, On the Map, a ddilynodd.
  • The Wild Rover (Collins). Ar ôl dathlu'r map diymhongar, roedd e'n amser chwarae efo rhywbeth arall sydd yn arferol yn y cefndir, sef ein rhwydwaith unigryw o lwybrau troed ac hawliau tramwy.  Er mwyn ymchwilio'r llyfr, mi gerddais i ar draws Cymru, ar hyd y Ridgeway (llwybr hynaf Prydain) a ffordd hynafol y meirw dros Dartmoor yng nghanol nos.
  • Real Powys (Seren). Mae sir Powys yn llawn chwarter ehangdir Cymru, lle mae llai na pump y cant o'r boblogaeth yn byw.  Mewn portread craff a serchog, rydw i'n teithio o gwmpas ein rhanbarth wag, yn chwiliota ei hysbryd anghyffredin fel gwlad "hanner-hanner".
  • Rough Guide to Wales (Penguin). O 1993 i 2006, wnes i cyd-ysgrifennu pump argraffiad y llyfr hwn. Roedd e'n gyfle gwych i deithio ledled Cymru ac i fod yn fusneslyd iawn - er nad oes angen esgus i fod yn fusneslyd yng Nghymru...

Diolch i'r Cwrs Wlpan ym Mhrifysgol Aberystwyth, rydw i wedi dysgu Cymraeg (hyd yn oed os rydw i'n swnio weithiau fel Clive y Brummie brwdfrydig, o gyfres Mawr! ar S4C).  Rydw i wedi darlledu ar S4C a Radio Cymru, ac yn Saesneg ar HTV a BBC.

Croeso i chi cysulltu â fi yn y Gymraeg: ebostiwch mapaddict [at] btinternet [dot] com, neu dilynwch fi (@mikeparkerwales) ar Twitter.

Parc Jurassic: Rhaeadr ar Afon Einion, Cereidigion

 

"Mae ganddo lais unigryw... dyn sy'n gwybod beth sy'n iawn a beth sy'n bwysig mewn bywyd" - Cylchgrawn Y Faner Newydd

 

 

Cartref >>